Text Box: Isobel Garner
Cadeirydd, Swyddfa Archwilio Cymru

08 Gorffennaf 2015

Annwyl Isobel,

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Ysgrifennaf atoch mewn ymateb i’ch llythyr, dyddiedig 19 Mehefin 2015, mewn cysylltiad â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

Trafododd y Pwyllgor Cyllid eich cynigion yn ei gyfarfod ar 1 Gorffennaf, a rhoddir sylw isod i rai o’r pwyntiau penodol a nodwyd yn eich llythyr.

Darpariaethau sy’n ymwneud â ffioedd

O ran ffioedd, gwyddoch mai un o’r rhesymau dros gyflwyno Deddf 2013 oedd i gynyddu tryloywder ac atebolrwydd Swyddfa Archwilio Cymru. Lluniwyd adran 23 ac adran 24 o’r Ddeddf yn benodol i’r diben hwn. Mae’r Ddeddf yn pennu, dim ond i’r graddau, na fydd ffioedd yn fwy na chost lawn y swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy; nid yw’n rhagnodi’r mecanwaith mewnol ar gyfer cyfrifo a gweinyddu’r ffioedd.

Penodi Cadeirydd ac Aelodau anweithredol 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor, wrth drafod y newid hwn, roeddwn yn cydnabod y cyfraniad defnyddiol a wnaethpwyd gennych o ran recriwtio Aelod anweithredol yn ddiweddar. Mae’r Aelodau’n cytuno ei bod yn bwysig sicrhau bod cymysgedd o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn rhan o’r Bwrdd, a bod ymgynghori â’r Cadeirydd wrth recriwtio rhagor o aelodau yn arfer da. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn argymell y dylai Pwyllgorau yn y dyfodol ei ystyried pan fyddant yn recriwtio i Swyddfa Archwilio Cymru. Fodd bynnag nid oeddem, fel Pwyllgor, yn teimlo ei bod yn briodol pennu bod rheidrwydd ar Gadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru i fod yn rhan o bob ymarferiad recriwtio mewn cysylltiad ag Aelodau anweithredol y Bwrdd, gan y gallai hyn arwain at ganlyniadau anfwriadol ac, ar rai achlysuron, efallai na fydd cael y cysylltiad hwn yn briodol.

Dull o weithredu’r newidiadau

Ystyriodd y Pwyllgor hefyd yr awgrym y gallai’r materion a godwyd yn eich llythyr gael eu hystyried fel "mân faterion drafftio" y byddai modd eu haddasu drwy orchymyn a wneir o dan adran 33 o’r Ddeddf. Cafodd y Pwyllgor gyngor gan ei gynghorydd cyfreithiol ar y pwynt hwn. Daeth i’r casgliad, bod yr awgrymiadau yn ymwneud â materion sy’n mynd at sylwedd a bwriad y Ddeddf, ac felly, maent yn mynd ymhellach na’r hyn a allai gael ei ystyried fel mater atodol neu’n ganlyniadol i’r Ddeddf. Yn unol â hynny ni ellid eu haddasu drwy orchymyn a wnaed o dan adran 33 o’r Ddeddf.

Hoffwn eich cyfeirio at fy llythyr dyddiedig 6 Mawrth 2015, lle’r oeddwn yn nodi mai barn y Pwyllgor yw, nad yw’r ddeddfwriaeth hon wedi bod mewn grym am ddwy flynedd eto, ac y byddai unrhyw wyro oddi wrth ddarpariaethau penodol y Ddeddf ar hyn o bryd yn gynamserol. Yn hyn o beth felly, safbwynt y Pwyllgor o hyd yw ei bod yn rhy fuan i ystyried gwneud newidiadau ar raddfa eang i’r Ddeddf ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd y Pwyllgor yn cynnwys y mater yn ein hadroddiad etifeddiaeth, i ganiatáu rhagor o amser i ystyried y materion hyn.

Rwyf hefyd yn anfon copi o’r llythyr hwn at y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth.

Yn gywir

 

Jocelyn Davies AC

Cadeirydd